| Carwyn James | |
|---|---|
| 👁 Image | |
| Ganwyd | 2 Tachwedd 1929 👁 Edit this on Wikidata Sir Gaerfyrddin 👁 Edit this on Wikidata |
| Bu farw | 10 Ionawr 1983 👁 Edit this on Wikidata Amsterdam 👁 Edit this on Wikidata |
| Dinasyddiaeth | 👁 Baner Cymru Cymru |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, newyddiadurwr 👁 Edit this on Wikidata |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Llanelli 👁 Edit this on Wikidata |
| Safle | maswr 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwlad chwaraeon | Cymru 👁 Edit this on Wikidata |
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru oedd Carwyn James (2 Tachwedd 1929 – 10 Ionawr 1983). Enillodd ddau gap dros Gymru, ond mae'n fwy enwog fel hyfforddwr timau Llanelli a'r Llewod.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd yng Nghefneithin, pentref glofaol ger Llanelli (lle ganed Barry John hefyd). Mynychodd Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, Drefach, a chafodd chwe chap dros Ysgolion Uwchradd Cymru. Chwaraeodd hefyd dwy gem i Lanelli tra yn yr ysgol uwchradd.
Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth wrth draed Gwenallt a T. H. Parry-Williams. Roedd gwasanaeth milwrol yn orfodol ar y pryd ac felly ymunodd â'r Llynges lle y dysgodd Rwseg. Roedd yn athro o ran galwedigaeth ac yn nes ymlaen yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Wedi dychwelyd i Sir Gâr bu'n chwarae yn gyson i Lanelli fel maswr. Enillodd ddau gap dros Gymru yn 1958, ond mae'n debygol y byddai wedi ennill llawer mwy onibai ei fod yn cystadlu a Cliff Morgan am safle'r maswr yn y tîm cenedlaethol.
Wedi ymddeol fel chwaraewr, daeth yn hyfforddwr Llanelli. Yn ystod ei gyfnod fel hyfforddwr enillodd Llanelli Gwpan Cymru bedair gwaith rhwng 1973 a 1976, ac ennill buddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1972. Ni fu erioed yn hyfforddwr tim Cymru, yn rhannol oherwydd ei fod yn credu y dylai'r hyfforddwr fod yn gadeirydd y pwyllgor dewis ac yn enwebu'r dewiswyr eraill. Dewiswyd ef yn hyfforddwr y Llewod Prydeinig ar gyfer eu taith i Seland Newydd yn 1971. Enillwyd y gyfres, yr unig dro hyd yma i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Bu Carwyn James yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholiad seneddol 1970. Wedi ymddeol fel hyfforddwr daeth yn amlwg fel darlledydd ac yr oedd yn ysgrifennu colofn wythnosol i'r Guardian. Bu farw'n sydyn mewn ystafell gwesty yn Amsterdam yn 1983.
Bu James hefyd yn aelod o Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Alun Richards, Carwyn: A Personal Memoir (Parthian, 2002)
- Alun Gibbard, Into the Wind: The life of Carwyn James (Y Lolfa, 2017)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Addysgwyr o Gymru
- Clwb Rygbi Llanelli
- Chwaraewyr rygbi'r undeb o Gymru
- Chwaraewyr undeb rygbi rhyngwladol Cymru
- Gwleidyddion Plaid Cymru
- Gwleidyddion yr 20fed ganrif o Gymru
- Genedigaethau 1929
- Hyfforddwyr rygbi'r undeb o Gymru
- Marwolaethau 1983
- Newyddiadurwyr o Gymru
- Pobl o Sir Gaerfyrddin
- Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig
- Articles with hCards
- Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata
- Dalennau gyda gwybodaeth am Reolaeth Awdurdod
- Wikipedia articles with VIAF identifiers
- Wikipedia articles with LCCN identifiers
- Wikipedia articles with ISNI identifiers
- Wikipedia articles with NLA identifiers
- Wikipedia articles with ODNB identifiers
