VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Connie_Fisher

โ‡ฑ Connie Fisher - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Connie Fisher
Ganwyd17 Mehefin 1983 ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata

Lisburn ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Label recordioFascination Records ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth๐Ÿ‘ Baner Cymru
 Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr, cynhyrchydd teledu ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.conniefisher.co.uk ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata

Cantores ac actores yw Connie Fisher (ganed 17 Mehefin 1983) a ddaeth i'r amlwg wrth ddod yn enillydd yn rhaglen y BBC How Do You Solve A Problem Like Maria sef rhaglen a oedd yn chwilio am y Maria gorau i chwarae rhan yn y sioe gerdd The Sound of Music yr oedd Andrew Lloyd Webber am lwyfannu yn Llundain. Mae hi'n siarad Cymraeg gan y magwyd ger Hwlffordd, Sir Benfro.

Bu'n aelod o Gรดr Newyddion Da pan yn ifanc iawn ac yr oedd yn gystadleydd rheolaidd yn eisteddfodau Urdd Gobaith Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Enillodd Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Agorodd y sioe The Sound of Music ar 15 Tachwedd 2006 i adolygiadau canmoliaethus iawn yn y West End, Llundain.

2008 i'r Presennol

[golygu | golygu cod]

Daeth ei chyfnod yn y sioe i ben ar 23 Chwefror 2008 gyda Summer Strallen yn cymryd y rhan yn ei lle.[1]

Daeth yn aelod o'r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  1. โ†‘ Nathan, John (4 Ionawr 2008). "Lloyd Webber Solves Maria Problem โ€“ Again". Playbill.com. Cyrchwyd 5 Ionawr 2008.


๐Ÿ‘ Baner Cymru
๐Ÿ‘ Eicon person
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.