VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Dolwyddelan

⇱ Dolwyddelan - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Dolwyddelan
👁 Image
Mathpentref, cymuned 👁 Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGwyddelan 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth474, 454, 427 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Arwynebedd5,922.21 ha 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0424°N 3.8952°W 👁 Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000116 👁 Edit this on Wikidata
Cod OSSH730511 👁 Edit this on Wikidata
Cod postLL25 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
👁 Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dolwyddelan.[1][2] Saif yn Nyffryn Lledr ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Enwir y pentref ar ôl Sant Gwyddelan, nawddsant y plwyf. Mae'r A470 a Rheilffordd Dyffryn Conwy yn pasio drwy'r pentref.

Yn ymyl y pentref ar glogwyn isel y mae Castell Dolwyddelan, un o gestyll Tywysogion Gwynedd a man geni Llywelyn Fawr yn ôl traddodiad. Yma hefyd y mae Tanycastell, man geni y pregethwr John Jones, Talysarn. Ychydig yn is i lawr y dyffryn ceir safle caer Rufeinig ym Mryn-y-Gefeiliau. Ar draws y ffordd i'r ffordd fawr ceir Tomen y Castell, sef hen domen o'r Oesoedd Canol.

👁 Image
Dolwyddelan tuag 1875

Llên gwerin

[golygu | golygu cod]

Un a aned yng Ngwm Wybrnant, uwchben Penmachno oedd Ellis Pierce (1841-1912), neu Elis o'r Nant, fel yr adnabyddid ef yngyffrediniol. Ymysg y pynciau y rhoddai sylw iddynt oedd hanes y tywydd yn ei gynefin, Dolwyddelan, a enwir yn 'wlad y gôg', a'i thrigolion yn 'gwcws' hyd heddiw, oherwydd chwedl hynafol am y lle. Yn ôl y chwedl, ganrifoedd ynghynt penderfynodd y cwrddplwy' geisio cadw'r gôg yn No'ddelan drwy'r flwyddyn gan godiwal uchel o amgylch y fro.[3]

Y Bont Rufeinig

[golygu | golygu cod]

Uwchlaw'r pentref yn rhan uchaf y dyffryn mae hen bont a elwir Y Bont Rufeinig. Dywedir iddi gael ei chodi i gludo'r hen ffordd Rufeinig o Canovium (Caerhun) i Domen y Mur, gwersyll Rhufeinig ger Trawsfynydd. Mae ganddi bensaernïaeth anghyffredin iawn, gyda wyth fwa o gerrig anferth, ond ymddengys ei bod yn perthyn i'r cyfnod modern cynnar yn hytrach na'r cyfnod Rhufeinig. Mae'r hen ffordd i fyny'r dyffryn i Flaenau Ffestiniog yn ei chroesi.

👁 Image
Y Bont Rufeinig, Dolwyddelan

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dolwyddelan (pob oed) (474) 100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dolwyddelan) (238) 51.9%
:Y ganran drwy Gymru 19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dolwyddelan) (260) 54.9%
:Y ganran drwy Gymru 73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dolwyddelan) (83) 38.1%
:Y ganran drwy Gymru 67.1%

Pobl o Ddolwyddelan

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. Vivian Parry Williams [1] tudalen 6
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
gw  sg  go
Trefi a phentrefi Conwy

Trefi
Abergele  · Bae Colwyn  · Betws-y-Coed  · Conwy  · Cyffordd Llandudno  · Degannwy  · Hen Golwyn  · Llandudno  · Llanfairfechan  · Llanrwst  · Penmaenmawr  · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel  · Bae Penrhyn  · Betws-yn-Rhos  · Bryn-y-maen  · Bylchau  · Caerhun  · Capel Curig  · Capel Garmon  · Cefn Berain  · Cefn-brith  · Cerrigydrudion  · Craig-y-don  · Cwm Penmachno  · Dawn  · Dolgarrog  · Dolwen  ·  · Dwygyfylchi  · Eglwys-bach  · Esgyryn  · Gellioedd  · Glanwydden  · Glasfryn  · Groes  · Gwytherin  · Gyffin  · Henryd  · Llanbedr-y-cennin  · Llandrillo-yn-Rhos  · Llanddoged  · Llanddulas  · Llanefydd  · Llanelian-yn-Rhos  · Llanfair Talhaearn  · Llanfihangel Glyn Myfyr  · Llangernyw  · Llangwm  · Llangystennin  · Llanrhos  · Llanrhychwyn  · Llan Sain Siôr  · Llansanffraid Glan Conwy  · Llansannan  · Llysfaen  · Maenan  · Y Maerdy  · Melin-y-coed  · Mochdre  · Nebo  · Pandy Tudur  · Penmachno  · Pensarn  · Pentrefelin  · Pentrefoelas  · Pentre-llyn-cymmer  · Pentre Tafarnyfedw  · Pydew  · Rowen  · Rhydlydan  · Rhyd-y-foel  · Tal-y-bont  · Tal-y-cafn  · Trefriw  · Tyn-y-groes  · Ysbyty Ifan