VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Henryd

⇱ Henryd - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Henryd
👁 Image
Mathpentref, cymuned 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth715, 672, 694 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Arwynebedd1,913.76 ha 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.253°N 3.853°W 👁 Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000118 👁 Edit this on Wikidata
Cod OSSH769747 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
👁 Map

Pentref bach a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Henryd.[1][2] Mae'r pentref gwledig tawel yn gorwedd yn rhan isaf Dyffryn Conwy ar lan orllewinol Afon Conwy, tua 1 filltir o'r afon honno a thua 4 milltir o dref Conwy. Rhed Afon Henryd trwy'r pentref, sy'n cymryd ei enw o'r "hen ryd" ar yr afon honno.

Saif y rhan hynaf o'r pentref o gwmpas yr hen gapel, a godwyd yn 1822, ar groesffordd lle cwrdd y lôn fach o Gonwy â lôn dawel arall sy'n dringo i'r ffriddau uchel ar lethrau dwyreiniol Tal-y-Fan (yr olaf o'r Carneddau). Dwy filltir i'r de-orllewin mae hen eglwys Llangelynnin. Tua milltir o Henryd mae Melin Wenddar.

Yn rhan newydd y pentref, i'r gogledd o'r groesffordd, ceir ysgol gynradd a nifer o dai newydd. Mae Cymreictod y pentref wedi dirywio cryn dipyn dros y blynyddoedd gan fod yr A55 mor agos.

👁 Image
Henryd
👁 Image
Capel yr Annibynwyr, Henryd

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Henryd (pob oed) (715) 100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Henryd) (261) 37.1%
:Y ganran drwy Gymru 19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Henryd) (396) 55.4%
:Y ganran drwy Gymru 73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Henryd) (101) 32.2%
:Y ganran drwy Gymru 67.1%

Cludiant

[golygu | golygu cod]

Mae gwasanaeth bws afreolaidd yn cysylltu Henryd â Chonwy. Yr orsaf trenau agosaf yw'r honno a geir yn y dref honno.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
gw  sg  go
Trefi a phentrefi Conwy

Trefi
Abergele  · Bae Colwyn  · Betws-y-Coed  · Conwy  · Cyffordd Llandudno  · Degannwy  · Hen Golwyn  · Llandudno  · Llanfairfechan  · Llanrwst  · Penmaenmawr  · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel  · Bae Penrhyn  · Betws-yn-Rhos  · Bryn-y-maen  · Bylchau  · Caerhun  · Capel Curig  · Capel Garmon  · Cefn Berain  · Cefn-brith  · Cerrigydrudion  · Craig-y-don  · Cwm Penmachno  · Dawn  · Dolgarrog  · Dolwen  · Dolwyddelan  · Dwygyfylchi  · Eglwys-bach  · Esgyryn  · Gellioedd  · Glanwydden  · Glasfryn  · Groes  · Gwytherin  · Gyffin  ·  · Llanbedr-y-cennin  · Llandrillo-yn-Rhos  · Llanddoged  · Llanddulas  · Llanefydd  · Llanelian-yn-Rhos  · Llanfair Talhaearn  · Llanfihangel Glyn Myfyr  · Llangernyw  · Llangwm  · Llangystennin  · Llanrhos  · Llanrhychwyn  · Llan Sain Siôr  · Llansanffraid Glan Conwy  · Llansannan  · Llysfaen  · Maenan  · Y Maerdy  · Melin-y-coed  · Mochdre  · Nebo  · Pandy Tudur  · Penmachno  · Pensarn  · Pentrefelin  · Pentrefoelas  · Pentre-llyn-cymmer  · Pentre Tafarnyfedw  · Pydew  · Rowen  · Rhydlydan  · Rhyd-y-foel  · Tal-y-bont  · Tal-y-cafn  · Trefriw  · Tyn-y-groes  · Ysbyty Ifan