VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Dyfnaint

⇱ Dyfnaint - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Dyfnaint
👁 Image
👁 Image
ArwyddairAuxilio Divino 👁 Edit this on Wikidata
Mathsiroedd seremonïol Lloegr 👁 Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDe-orllewin Lloegr, Lloegr, Teyrnas Lloegr
PrifddinasCaerwysg 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,209,773 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad👁 Baner Lloegr
 Lloegr
Arwynebedd6,706.9855 km² 👁 Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGwlad yr Haf, Cernyw, Dorset 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.7°N 3.8°W 👁 Edit this on Wikidata
GB-DEV 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map
👁 Image
Baner Dyfnaint (Croes Sant Pedrog)

Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dyfnaint (Cernyweg: Dewnans; Llydaweg: Devnent; Saesneg: Devon). Caerwysg yw'r ddinas sirol. Mae'r sir yn ffinio â Chernyw, Gwlad yr Haf, Dorset, Môr Hafren a'r Môr Udd. Er i'r ardal gael ei goresgyn a'i gwladychu gan Sacsoniaid Wessex yn yr Oesoedd Canol Cynnar, mae'r enw yn gysylltiedig ag enw hen deyrnas Geltaidd Dumnonia.

👁 Image
Lleoliad Dyfnaint yn Lloegr

Dyfnaint ydyw'r unig sir yn Lloegr i fod â dau arfordir ar wahân, heb gyffwrdd â'i gilydd.

Mae baner Dyfnaint yn dyddio o 2003. Fe'i mabwysiadwyd ar ôl cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y BBC. Mabwysiadwyd y briallu fel blodyn y sir hefyd.

Ceir sawl enw lle o darddiad Brythonig yn Nyfnaint (er enghraifft combe (cwm), tor (twr), pen (pen)) ond mae nhw'n fwy cyffredin ar ôl croesi Afon Tamar, ffin Cernyw, yn y gorllewin. Y dosbarth lluosocaf o'r enwau lleoedd hyn yw enwau'r Celtiaid ar afonydd.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Ardaloedd awdurdod lleol

[golygu | golygu cod]

Rhennir y sir yn wyth ardal an-fetropolitan a dau awdurdod unedol:

👁 Image
  1. Ardal Gogledd Dyfnaint
  2. Ardal Torridge
  3. Ardal Canol Dyfnaint
  4. Ardal Dwyrain Dyfnaint
  5. Dinas Caerwysg
  6. Bwrdeistref Gorllewin Dyfnaint
  7. Ardal Teignbridge
  8. Dinas Plymouth – awdurdod unedol
  9. Ardal South Hams
  10. Bwrdeistref Torbay – awdurdod unedol

Etholaethau seneddol

[golygu | golygu cod]

Rhennir y sir yn 12 etholaeth seneddol yn San Steffan:

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]


gw  sg  go
Siroedd seremonïol Lloegr
👁 Lloegr
👁 Image
Eginyn erthygl sydd uchod am . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.