VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Jonathan_Pryce

⇱ Jonathan Pryce - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Jonathan Pryce
👁 Image
GanwydJohn Price 👁 Edit this on Wikidata

1 Mehefin 1947 👁 Edit this on Wikidata

Carmel 👁 Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain 👁 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth👁 Baner Cymru
 Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, byrfyfyriwr, actor 👁 Edit this on Wikidata
PriodKate Fahy 👁 Edit this on Wikidata
PartnerKate Fahy 👁 Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier, CBE, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Tony am Actor Gorau mewn Sioe Gerdd, Drama Desk Award for Outstanding Actor in a Musical, Gwobr Gwyl Ffilmiau Cannes i'r Actor Gorau 👁 Edit this on Wikidata

Actor a chanwr o Gymru ydy Syr Jonathan Pryce KBE (ganwyd John Price; 1 Mehefin 1947)[1] o Dreffynnon, Sir y Fflint. Ar ôl iddo astudio yn RADA a phriodi'r actores Wyddelig Kate Fahy ym 1974, dechreuodd ei yrfa fel actor llwyfan yn ystod y 1970au. Arweiniodd ei waith yn y theatr iddo dderbyn mwy o rôlau cefnogol mewn ffilmiau ac ar y teledu. Daeth ei berfformiad sgrîn fawr mwyaf arwyddocaol yn ffilm gwlt Terry Gilliam Brazil (1985).

Mae Pryce wedi serennu mewn nifer o ffilmiau cyllid uchel, fel Evita, Tomorrow Never Dies, Pirates of the Caribbean a The New World, yn ogystal â phrosiectau annibynnol fel Glengarry Glen Ross a Carrington. Mae ei yrfa ym myd y theatr hefyd wedi bod yn llwyddiannus, gan ennill dwy Wobr Tony - y cyntaf ohonynt ym 1977 am ei berfformiad cyntaf ar Broadway yn "Comedians", a'r ail am ei ran fel "y Peiriannydd" yn y sioe gerdd Miss Saigon.

Yn 2015, roedd Pryce yn actor gwadd ar gyfres HBO Game of Thrones yn chwarae'r cymeriad The High Sparrow cyn dod yn actor rheolaidd ar y gyfres yn 2016.

Fe'i urddwyd yn farchog yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2021, am wasanaeth i Ddrama a Gwaith Elusennol.[2]

Theatr (anghyflawn)

[golygu | golygu cod]
  • Comedians (1975) fel Gethin Price
  • Miss Saigon (1989) fel Y Peiriannydd
  • Oliver! (adfywiad 1994) fel Fagin
  • My Fair Lady (adfywiad 2001) fel Athro Higgins

Ffilmiau (anghyflawn)

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Chase's Calendar of Events 2020: The Ultimate Go-to Guide for Special Days, Weeks and Months (yn Saesneg). Bernan Press. 2019. t. 304. ISBN 9781641433167.
  2. Queen's Birthday Honours List 2021: All the Welsh people honoured , WalesOnline, 11 Mehefin 2021. Cyrchwyd ar 20 Mehefin 2021.