| Macsen Wledig | |
|---|---|
| 👁 Image | |
| Ganwyd | Flavius Magnus Maximus 👁 Edit this on Wikidata 335 👁 Edit this on Wikidata Hispania 👁 Edit this on Wikidata |
| Bu farw | 27 Awst 388, 28 Awst 388 👁 Edit this on Wikidata Aquileia 👁 Edit this on Wikidata |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol 👁 Edit this on Wikidata |
| Galwedigaeth | gwleidydd 👁 Edit this on Wikidata |
| Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig 👁 Edit this on Wikidata |
| Plant | Flavius Victor 👁 Edit this on Wikidata |
| Llinach | Llinach Theodosius 👁 Edit this on Wikidata |
Rheolwr yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol oedd Macsen Wledig (Lladin: Magnus Maximus, tua 335 – 28 Gorffennaf 388), o gwymp yr Ymerodraeth yn 383 tan ei farwolaeth yn 388.
Celt-Iberiad (Celt o'r Sbaen Rufeinig) oedd Macsen Wledig a ddaeth i ynysoedd Prydain yn y 360au.[1] Cafodd ei orseddu yn Ymerawdwr gan ei fyddin tra roedd ef a hwy yn gwasanaethu ar yr ynysoedd. Gorchfygodd ei brif elyn Gratianus ger Paris ond ar ôl hynny fe'i lladdwyd ganddo mewn brwydr yn Lyons ar 25 Awst 383. Cododd Macsen Wledig brifddinas yn Augusta Treverorum (Almaeneg: Trier) ac roedd yn Gristion.
Cafodd Macsen Wledig ei ddal a'i ladd gan ei gyn-noddwr Theodosius I yn Aquileia ger Trieste yn nhalaith Illyria ar 28 Gorffennaf 388.
Traddodiadau Cymreig
[golygu | golygu cod]Yn ôl y chwedl Gymreig ganoloesol Breuddwyd Macsen Wledig, priododd Macsen Elen Luyddog, merch Eudaf o ardal Segontium, y gaer Rufeinig ger Caernarfon, ac mae peth tystiolaeth bod y stori'n wir. Yn yr achau Cymreig nodir Sant Peblig ac Owain fab Macsen Wledig yn feibion i Macsen ac Elen.
Yn ôl y traddodiad Cymreig, Macsen oedd yn gyfrifol am ymadawiad lluoedd Rhufain o Gymru 20 mlynedd cyn gweddill Prydain. Gadawodd Macsen diroedd Cymru yn nwylo’r bobl frodorol, gan gyflwyno trefn o hunanlywodraeth a barodd tua naw cant o flynyddoedd. Am y rheswm hwnnw, mae Macsen wedi ei ystyried yn ’Dad y Genedl Gymreig’.[1]
Dywed Gwynfor Evans mai'r Cymry yn unig o holl bobloedd yr Ymerodraeth wrthsafodd y Germaniaid yn llwyddiannus yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, a bu’r drefn a gyflwynodd Macsen yn un o'r rhesymau pennaf dros hynny.[2]
Mae gan Dafydd Iwan gân enwog sy'n cyfeirio at Macsen, sef "Yma o Hyd".
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gwynfor Evans, Macsen Wledig a Geni'r Genedl Gymreig (Abertawe, d.d.= 1983)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Articles with hCards
- Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata
- Wikipedia articles with VIAF identifiers
- Wikipedia articles with LCCN identifiers
- Wikipedia articles with ISNI identifiers
- Wikipedia articles with GND identifiers
- Wikipedia articles with BNF identifiers
- Wikipedia articles with ODNB identifiers
