VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Peter_Brook

⇱ Peter Brook - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Peter Brook
👁 Image
Peter Brook yn 2009
GanwydPeter Stephen Paul Brook 👁 Edit this on Wikidata

21 Mawrth 1925 👁 Edit this on Wikidata

Llundain, Chiswick 👁 Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 2022 👁 Edit this on Wikidata

Paris, 15fed arrondissement Paris 👁 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Ffrainc 👁 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm, theatrolegydd, sgriptiwr, ysgrifennwr, hunangofiannydd, cinephile, cyfarwyddwr opera, cyfarwyddwr 👁 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Shifting Point: Forty Years of Theatrical Exploration, 1946-1987 👁 Edit this on Wikidata
PriodNatasha Parry 👁 Edit this on Wikidata
PlantIrina Brook, Simon Brook 👁 Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur de la Légion d'honneur‎, Commandeur des Arts et des Lettres‎, CBE, Gwobr Ryngwladol Ibsen, Praemium Imperiale, Gwobr Tony am y Cyfarwyddo Gorau mewn Drama, Gwobr Tony am y Cyfarwyddo Gorau mewn Drama, Gwobr Dan David, Gwobr Kyoto yn y Celfyddydau ac Athroniaeth, World Award of Humanism, Gwobr Tywysoges Asturias am y Celfyddydau, Medal y Llywydd, prix Giles, Padma Shri yn y celfyddydau, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Uwch-swyddog Urdd Santiago de la Espada, Medal of the City of Paris, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr Cylch y Beirniaid am Wasanaeth Nodedig i'r Celfyddydau, Gwobr Theatr Ewrop, doethuriaeth er anrhydedd Prifysgol Sorbonne Nouvelle 👁 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.newspeterbrook.com/ 👁 Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr a chynhyrchydd theatr a chyfarwyddwr ffilm o Sais oedd Peter Stephen Paul Brook (21 Mawrth 19252 Gorffennaf 2022) a fu'n nodedig am lwyfannu dramâu William Shakespeare yn ogystal â nifer o weithiau'r avant-garde.

Ganed ef yn Chiswick, Llundain. Gwyddonwyr Iddewig o Latfia o'r enw Bryk oedd ei rieni; alltudiwyd ei dad o Ymerodraeth Rwsia ym 1914 am iddo arddel taliadau chwyldroadol.[1] Mynychodd Peter sawl ysgol, gan gynnwys yr ysgolion bonedd Westminster a Gresham, cyn iddo gael ei dderbyn i Brifysgol Rhydychen ym 1942.

Cyfarwyddodd Shakespeare yn gyntaf—y ddrama hanes King John—yn ystod ei dymor gyda'r Birmingham Repertory Theatre ym 1945, ac wedi hynny aeth i fan geni'r dramodydd, Stratford-upon-Avon, yn 21 oed. Yn y 1940au, efe a gyflwynodd dramâu avant-garde y Ffrancod Jean Cocteau a Jean-Paul Sartre i Loegr. Cyfarwyddodd sawl opera, gan gynnwys Salome gan Richard Strauss, i'r Tŷ Opera Brenhinol ym 1948–9. Cyfarwyddodd nifer rhagor o ddramâu Shakespeare, gan gynnwys Measure for Measure (1950), The Winter's Tale (1951), Titus Andronicus (1955), Hamlet (1955), The Tempest (1957), a King Lear (1962). Yn niwedd y 1950au daeth yn gyfarwydd â ffasiynau pryfoclyd y Cyfandir, yn enwedig y ffurf Théâtre de la Cruauté a arloeswyd gan Antonin Artaud, ac aeth Brook ati i lwyfannu gweithiau o'r fath, gan gynnwys The Screens gan Jean Genet a Marat/Sade gan Peter Weiss, ill dau ym 1964.[2] Brook a wnaeth sgriptio a chyfarwyddo'r addasiad ffilm ym 1963 o'r nofel Lord of the Flies gan William Golding. Ym 1968 cyhoeddodd Brook ei lyfr enwocaf, The Empty Space, yn gyflwyniad o'i syniadau am myd y theatr.

Symudodd i Baris, Ffrainc, ym 1970, ac yno sefydlodd y Ganolfan Ryngwladol er Ymchwil Theatr, mewn cydweithrediad â'r Théâtre des Bouffes du Nord. Wedi hynny, perfformiwyd y mwyafrif o'i gynyrchiadau ym Mharis, gan gynnwys Kaspar gan Peter Handke (1972), Timon of Athens (1974) ac Antony and Cleopatra (1978) gan Shakespeare, ac addasiad o'r Mahabharata a barai am naw awr (1985). Ysgrifennodd ragor o lyfrau am ei brofiadau a'i syniadau artistig, gan gynnwys The Shifting Point (1987), The Open Door (1993), a'r hunangofiant Threads of Time (1998). Derbyniodd wobr y Praemium Imperiale am theatr/ffilm ym 1997, a fe'i wnaed yn Gydymaith Anrhydedd ym 1998.[2] Bu farw Peter Brook ym Mharis yn 97 oed.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) "Peter Brook, visionary director known for his daring and visually striking stage productions – obituary", The Daily Telegraph (3 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Gorffennaf 2022.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Peter Brook. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Gorffennaf 2022.
  3. (Saesneg) "Peter Brook: British stage directing great dies aged 97", BBC (4 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Gorffennaf 2022.