| 👁 Image | |
| 👁 Image | |
| Math | tref goleg, cymuned, dinas 👁 Edit this on Wikidata |
|---|---|
| Poblogaeth | 52,812 👁 Edit this on Wikidata |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 👁 Edit this on Wikidata |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Ansanus 👁 Edit this on Wikidata |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Talaith Siena 👁 Edit this on Wikidata |
| Sir | Talaith Siena 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwlad | 👁 Baner Yr Eidal Yr Eidal |
| Arwynebedd | 118.53 km² 👁 Edit this on Wikidata |
| Uwch y môr | 322 ±1 metr 👁 Edit this on Wikidata |
| Yn ffinio gyda | Asciano, Castelnuovo Berardenga, Monteroni d'Arbia, Sovicille, Monteriggioni 👁 Edit this on Wikidata |
| Cyfesurynnau | 43.3183°N 11.3314°E 👁 Edit this on Wikidata |
| Cod post | 53100 👁 Edit this on Wikidata |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Siena 👁 Edit this on Wikidata |
| 👁 Map | |
| Sefydlwydwyd gan | Senius and Aschius 👁 Edit this on Wikidata |
Dinas a chymuned (comune) yng nghanolbarth yr Eidal yw Siena, sy'n brifddinas talaith Siena yn rhanbarth Toscana.
Roedd y boblogaeth yng nghyfrifiad 2011 yn 52,839.[1]
Sefydlwyd Siena yn y cyfnod Etrwscaidd (tua 900 CC hyd 400 CC), pan oedd yn eiddo llwyth y Saina. Yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Augustus, sefydlwyd tref Rufeinig, Saena Julia, yma. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Siena gan Senius, mab Remus, brawd Romulus.
Nid oedd Siena yn dref lewyrchus iawn yn y cyfnod Rhufeinig, a dim ond wedi i'r ardal ddod i feddiant y Lombardiaid y daeth ei safle yn fwy addas ar gyfer masnach. Cipiwyd y ddinas gan Siarlymaen yn 774, a daeth yn ganolfan fasnach bwysig.
Yn ystod y 12g a'r 13g roedd Seiena yn ddinas-wladwriaeth anninynnol, a bu llawer o ymladd rhyngddi hi a dinas Fflorens. Ar 4 Medi 1260 ymladdwyd Brwydr Montaperti, pan enillodd y Sieniaid frwydr fawr dros fyddin Fflorens, gan ladd tua 15,000 ohonynt. Sefydlwyd Prifysgol Siena yn 1203. Daeth Gweriniaeth Siena i ben yn 1555, pan fu raid iddi ildio i Fflorens.
Ymhlith y prif atyniadau i ymwelwyr mae'r Duomo di Siena, yr eglwys gadeiriol, sy'n un o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth Romanésg. Enwyd canol hanesyddol Siena yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 8 Mai 2018
