VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Weimar

⇱ Weimar - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Weimar
👁 Image
👁 Image
Mathmedium regional center, tref goleg, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Thuringia 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth65,611 👁 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPeter Kleine 👁 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 👁 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Blois, Hämeenlinna, Siena, Trier, Zamość 👁 Edit this on Wikidata
NawddsantQ103982756 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirThüringen 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Yr Almaen
 Yr Almaen
Arwynebedd84.48 ±0.01 km² 👁 Edit this on Wikidata
Uwch y môr208 ±1 metr 👁 Edit this on Wikidata
GerllawIlm 👁 Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaWeimarer Land 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.9811°N 11.3294°E 👁 Edit this on Wikidata
Cod post99423, 99425, 99427 👁 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPeter Kleine 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map
👁 Image
Goethe a Schiller, o flaen y Deutsches Nationaltheater

Dinas yn nhalaith ffederal Thüringen yn yr Almaen yw Weimar. Saif i'r gogledd o'r Thüringer Wald, i'r dwyrain o Erfurt, ac i'r de-orllewin o Halle a Leipzig. Mae'r boblogaeth tua 64,000.

Ceir y cofnod cyntaf am y ddinas yn 899. Yn ddiweddarach, daeth yn brifddinas Dugiaeth Saxe-Weimar. Bu Martin Luther a Johann Sebastian Bach yn byw yma, yna tua diwedd y 18g symudodd Goethe yma. Daeth y ddinas yn ganolfan ddiwylliannol yr Almaen; ymhlith y trigolion enwog mae Schiller, Herder, Hummel, Liszt, Friedrich Nietzsche ac Arthur Schopenhauer.

Rhoddodd y ddinas ei henw i Weriniaeth Weimar, y cyfnod rhwng 1919 a 1933 yn hanes yr Almaen. Daw'r enw oherwydd mai yma y drafftiwyd y cyfansoddiad ar gyfer y weriniaeth newydd, gan fod Berlin yn rhy beryglus ar y pryd. Weimar a Dessau oedd canolbwynt y mudiad Bauhaus.

Yn yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd gwersyll crynhoi yn Buchenwald, 8 km o Weimar.