| Stan Laurel | |
|---|---|
| 👁 Image | |
| Ganwyd | Arthur Stanley Jefferson 👁 Edit this on Wikidata 16 Mehefin 1890 👁 Edit this on Wikidata Ulverston 👁 Edit this on Wikidata |
| Bu farw | 23 Chwefror 1965 👁 Edit this on Wikidata Santa Monica 👁 Edit this on Wikidata |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig 👁 Edit this on Wikidata |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | actor llwyfan, sgriptiwr, digrifwr, actor ffilm, perfformiwr stỳnt, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd 👁 Edit this on Wikidata |
| Tad | Arthur J. Jefferson 👁 Edit this on Wikidata |
| Priod | Lois Neilson, Ruth Rogers, Vera Ivanova Shuvalova, Ruth Rogers, Ida K. Laurel 👁 Edit this on Wikidata |
| Partner | Mae Dahlberg 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwobr/au | Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood 👁 Edit this on Wikidata |
| llofnod | |
| 👁 Image | |
Actor digrif, dramodydd a chyfarwyddwr ffilm Seisnig oedd Stan Laurel (ganwyd Arthur Stanley Jefferson; 16 Mehefin 1890 – 23 Chwefror 1965) ac un hanner o Laurel a Hardy, y ddeuawd a gychwynnodd yn oes ffilmiau mud a barodd 25 mlynedd, o 1927 i 1951. Ymddangosodd gyda'i bartner comedi Oliver Hardy mewn 107 ffilm ffer, ffilm nodwedd a rhannau cameo.
Fe'i ganwyd yn nhref Ulverston, Swydd Gaerhirfryn (bellach yn Cumbria), Lloegr, i deulu theatraidd, a magwyd yn Bishop Auckland, Swydd Durham, wedyn Tynemouth, Northumberland, a Glasgow, yr Alban. Yn Glasgow y cychwynodd ar ei yrfa ar y llwyfan, gan ymddangos mewn pantomeimiau a sgetshis yn y theatr gerdd. Ym 1910 ymunodd â chwmni actorion Fred Karno, ac am gyfnod roedd yn dirprwyo dros Charlie Chaplin. Aeth y cwmni ar daith drwy'r Unol Daleithiau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac arhosodd Laurel a Chaplin yno. Parhaodd Laurel i ymddangos ar y llwyfan am ddegawd o leiaf, ond ym 1917 roedd ganddo rôl mewn ffilm fer, Nuts in May. Wedi hynny trodd fwyfwy at weithio mewn ffilmiau, a ffurfiodd ei bartneriaeth hirsefydlog gyda Hardy ym 1927. Ymddeolodd Laurel ar ôl marwolaeth ei bartner ym 1957. Bu farw yn Santa Monica, Califfornia, ym 1965.
Roedd ganddo bedair gwraig, a phriododd un ohonyn nhw ddwywaith.
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Fred Lawrence Guiles, Stan: The Life of Stan Laurel (Efrog Newydd, 1980)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Articles with hCards
- Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata
- Wikipedia articles with VIAF identifiers
- Wikipedia articles with LCCN identifiers
- Wikipedia articles with ISNI identifiers
- Wikipedia articles with GND identifiers
- Wikipedia articles with BNF identifiers
- Wikipedia articles with BIBSYS identifiers
- Wikipedia articles with NLA identifiers
- Wikipedia articles with faulty authority control identifiers (SBN)
- Wikipedia articles with ODNB identifiers
