VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Wang_Wei

⇱ Wang Wei - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Wang Wei
👁 Image
Ganwyd699 👁 Edit this on Wikidata

Yongji 👁 Edit this on Wikidata
Bu farw759, Awst 761 👁 Edit this on Wikidata

Chang'an 👁 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhinllin Tang 👁 Edit this on Wikidata
Addysgjinshi 👁 Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, bardd, ysgrifennwr, gwleidydd, cerddor, caligraffydd 👁 Edit this on Wikidata
Swyddgweinidog 👁 Edit this on Wikidata
Arddullportread 👁 Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluHedong County 👁 Edit this on Wikidata
TadWang Chulian 👁 Edit this on Wikidata
LlinachWang clan of Taiyuan 👁 Edit this on Wikidata
👁 Image
Portread o Fu Sheng, a briodolir i Wang Wei
Erthygl am y bardd enwog yw hon. Gweler hefyd Wang Wei (gwahaniaethu).

Bardd, arlunydd, cerddor a gwladweinydd o Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Tang a elwir weithiau "y Bwdha-Fardd" oedd Wang Wei (Tsieineeg 王維 Wáng Wéi) (701761).

Ei fywyd

[golygu | golygu cod]

O dras uchelwrol, basiodd ei arholiadau ar gyfer y Gwasanaeth Sifil Ymherodrol yn 721 a chafodd yrfa lwyddiannus gan ymddyrchafu i fod yn Ganghellor yn 758. Yn ystod Gwrthyfel An Lushan osgodd gwrdd ag asiantau'r gwrthryfelwyr trwy esgus ei fod yn fyddar. Treuliodd ddeng mlynedd yn astudio dan y meistr Chán Daoguang. Ar ôl marwolaeth ei wraig yn 730, sefydlodd fynachlog ar ran o'i ystad ac aeth yno i ymddeol.

Fe'i cofir yn bennaf am ei gerddi sy'n darlunio golygfeydd tawel o ddyfroedd a niwl heb lawer o le ynddynt i bobl, fel yn achos llawer o baentiadau'r cyfnod.

Does dim un o'i baentiadau gwreiddiol wedi goroesi, ond ceir copïau a briodolir iddo, yn enwedig paetniadau tirwedd traddodiadol. Cafodd ddylanwad ar Ysgol Ddeheuol paentiadau tirwedd Tsieina, a nodweddir gan strociau brwsh cryf a golchiadau inc ysgafn.

Enghraifft o'i ganu

[golygu | golygu cod]

Mae'r gerdd fer 'Yn Nyfnderoedd y Mynydd Anial' yn un o ddwy o gerddi Wang Wei a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Cedric Maby:

Yn nyfnderoedd y mynydd anial,
Byth ni ddynesa neb,
Ond unwaith yn y pedwar amser,
Fel llef o hirbell,
Bydd pelydrau trwy'r goedwig gethin
A thywynnu eto ar y cysgodog fwsogl.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cedric Maby, Y Cocatŵ Coch, tud. 48.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Ceir dwy o gerddi Wei Wan wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg yn y gyfrol:

  • Cecil Maby, Y Cocatŵ Coch: Blodeugerdd o gerddi byrion o'r Tseinaeg (Gwasg Prifysgol Cymru, ar ran yr Academi Gymreig, 1987)

Ceir sawl cyfieithiad Saesneg, yn cynnwys

  • Wang Wei: Poems, gol. G. W. Robinson (Harmondsworth: Penguin Books, 1973).