VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/A487

⇱ Ffordd yr A487 - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o A487)
A487
👁 Image
Mathffordd dosbarth A 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Cyfesurynnau52.5159°N 3.9735°W 👁 Edit this on Wikidata
Hyd174 milltir 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map

Mae'r A487 yn un o brif ffyrdd Cymru sy'n cysylltu'r De a'r Gogledd, yn yr achos hwn ar hyd yr arfordir gorllewinol.

Llwybr

[golygu | golygu cod]
👁 Image
Yr A487 ger Pennal

O'i dilyn oddi wrth ben y de, cychwynna'r ffordd o Hwlffordd i Dyddewi, lle mae'n troi i fynd ymlaen at Abergwaun. Ffordd sirol oedd hi cyn hyn, wedyn daw yn gefnffordd am weddill y llwybr. Mae'r ffordd yn dilyn yr arfordir yn bennaf ar ben clogwyni gorllewin Cymru, trwy Aberaeron ac Aberteifi at Aberystwyth, lle mae ffordd osgoi canol y dref. Â ymlaen at Fachynlleth, ac wedi crosi Afon Dyfi, mae'n roi'r gorau i ddilyn yr arfordir mor agos.

Wedi pasio Pantperthog, Corris a Chorris Uchaf mae'n cyrraedd y Cross Foxes, lle mae'n ymuno â'r A470. Mae'r ffyrdd yn gwahanu eto ar ôl Trawsfynydd, gyda'r A487 yn mynd ymlaen i Benrhyndeudraeth ac ar draws Cob Y Traeth Mawr (adeiladwyd gan William Alexander Madocks) a thros Afon Glaslyn i Borthmadog a Thremadog. Mae ffordd osgoi newydd heibio Llanllyfni a Phen-y-groes cyn cyrraedd Caernarfon, ffordd osgoi Y Felinheli, ac ymuno â'r A5 wrth droed Pont y Borth.