VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Machynlleth

⇱ Machynlleth - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Machynlleth
👁 Image
Mathcymuned, tref 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,235, 2,163, 2,161, 2,147 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Cyfesurynnau52.591°N 3.849°W 👁 Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000326 👁 Edit this on Wikidata
Cod OSSH745005 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUSteve Witherden (Llafur)
👁 Map

Tref a chymuned yng ngogledd-orllewin Powys, Cymru, yw Machynlleth[1][2] (👁 "Cymorth – Sain"
 
ynganiad
 
). Saif ger aber Afon Dyfi. Mae ganddi boblogaeth o 2,235 (2011),[3][4] 2,163 (2021),[5] 2,161 (2021),[6] 2,147 (2001)[7]. Ei hadeilad enwocaf yw Senedd-dy Owain Glyn Dŵr. Mae marchnad bwysig yn y dref pob dydd Mercher.

Mae gan y dref glwb pêl-droed ers 1885, C.P.D. Machynlleth sy'n chwarae yn Cae Glas. Agorwyd siop gyntaf Laura Ashley yma ym Machynlleth yn 35 Heol Maengwyn, a hynny yn 1961.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[8] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[9] Mae Caerdydd 131.5 km i ffwrdd o Machynlleth ac mae Llundain yn 283.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 73 km i ffwrdd.

Cynhaliodd Owain Glyndŵr senedd ym Machynlleth yn 1404. Yno, yng ngwydd llysgenhadon o Ffrainc, Yr Alban a Sbaen, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru. Llys Maldwyn yn Heol-y-Doll oedd lleoliad Vane Infant School hyd at 1852.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[10][11][12]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Machynlleth (pob oed) (2,235) 100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Machynlleth) (1,119) 51.6%
:Y ganran drwy Gymru 19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Machynlleth) (1466) 65.6%
:Y ganran drwy Gymru 73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Machynlleth) (390) 37.8%
:Y ganran drwy Gymru 5%

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]

Pont-ar-Ddyfi a Phont Ddyfi Newydd

[golygu | golygu cod]

Crybwyllir 'Pont ar Ddyfi' am y tro cyntaf yn 1533, gan Geoffrey Hughes yn ei gyfrol "Citizen and Merchant taylour of London" a adawodd £6 13s 4d (deg marc) i godi'r bont. Erbyn 1601 dywedwyd nad oedd "pont Ddyfi yng Nghantref Mochunleth" yn ddigonol, ac adeiladwyd yr un presennol yn 1805 am gost o £250.

Ar 13 Ionawr 2020, cymeradwyodd y Llywodraeth Cymru adeiladu pont newydd ar draws Afon Dyfi. Agorwyd y ffordd newydd yn 2023 a chostiodd tua £46 miliwn, arianwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru.[13] Roedd yr hen bont dan lifogydd yn aml pan oedd llif yr afon yn gryf ond mae'r broblem hon bellach wedi'i datrys.

Hamdden

[golygu | golygu cod]

Mae anturiaethau awyr agored yn boblogaidd yn yr ardal ac yn denu twristiaid. Lleolir Coedwig Dyfi i'r gogledd o'r dref sy'n cynnwys sawl llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd.

Digwyddiadau

[golygu | golygu cod]

Cynhelir dau ŵyl flynyddol o bwys yn y dref:

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Genedlaethol

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth ym 1937 a 1981. Am wybodaeth bellach gweler:

👁 Image
Machynlleth, Sir Drefaldwyn

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Tachwedd 2021
  3. https://www.nomisweb.co.uk/reports/localarea?compare=W04000326.
  4. "Key Statistics". cyhoeddwr: Swyddfa Ystadegau Gwladol. adran, adnod neu baragraff: Table KS101EW (Usual resident population) and Table KS105EW (Household composition). dyddiad cyrchiad: 23 Mehefin 2025.
  5. https://www.cambrian-news.co.uk/news/valley-of-the-lonely-hearts-668205.
  6. "Parish Profiles". dyddiad cyrchiad: 5 Awst 2024. cyhoeddwr: Swyddfa Ystadegau Gwladol. cyhoeddwyd fel rhan o’r canlynol: Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021.
  7. "Key Statistics". dyddiad cyrchiad: 23 Mehefin 2025. cyhoeddwr: Swyddfa Ystadegau Gwladol. adran, adnod neu baragraff: Tables KS001 (Usual resident population) and KS016 (Household spaces and accommodation type).
  8. Gwefan Senedd Cymru
  9. Gwefan Senedd y DU
  10. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  12. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  13. "Codi pont newydd dros afon Dyfi ger Machynlleth". Golwg360. Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
gw  sg  go
Trefi a phentrefi Powys

Trefi
Aberhonddu  · Crucywel  · Y Drenewydd  · Y Gelli Gandryll  · Llanandras  · Llandrindod  · Llanfair-ym-Muallt  · Llanfyllin  · Llanidloes  · Llanwrtyd  ·  · Rhaeadr Gwy  · Talgarth  · Y Trallwng  · Tref-y-clawdd  · Trefaldwyn  · Ystradgynlais
Pentrefi
Abaty Cwm-hir  · Aberbrân  · Abercegir  · Abercraf  · Aberedw  · Abergwesyn  · Abergwydol  · Aberhafesb  · Aberhosan  · Aberllynfi  · Aber-miwl  · Aberriw  · Abertridwr  · Aberysgir  · Adfa  · Arddlin  · Bachelldref  · Y Batel  · Betws Cedewain  · Beulah  · Bochrwyd  · Bontdolgadfan  · Y Bontnewydd-ar-Wy  · Bronllys  · Bugeildy  · Bwlch  · Caersŵs  · Capel Isaf  · Capel Uchaf  · Capel-y-ffin  · Carno  · Casgob  · Castell Caereinion  · Castell-paen  · Cathedin  · Cegidfa  · Cemaes  · Ceri  · Cilmeri  · Y Clas-ar-Wy  · Clatter  · Cleirwy  · Cnwclas  · Coedybrenin  · Coelbren  · Comins-coch  · Crai  · Craig-y-nos  · Crugion  · Cwmdu  · Cwm-twrch  · Darowen  · Defynnog  · Derwen-las  · Dolanog  · Dolfor  · Dylife  · Einsiob  · Erwd  · Esgairgeiliog  · Felindre, Maldwyn  · Felin-fach  · Y Foel  · Ffordun  · Gaer  · Garth  · Glan-miwl  · Glantwymyn  · Glasgwm  · Y Groes  · Gwenddwr  · Heol Senni  · Isatyn  · Kinnerton  · Libanus  · Llan  · Llanafan Fawr  · Llananno  · Llanarmon Mynydd Mawr  · Llanbadarn Fynydd  · Llanbadarn Garreg  · Llanbister  · Llanbryn-mair  · Llandinam  · Llandrinio  · Llandyfaelog Tre'r-graig  · Llandysilio  · Llandysul  · Llan-ddew  · Llanddewi yn Hwytyn  · Llanddewi Ystradenni  · Llanelwedd  · Llanerfyl  · Llanfair Caereinion  · Llanfair Llythynwg  · Llanfechain  · Llanfihangel Nant Brân  · Llanfihangel Nant Melan  · Llanfihangel Rhydieithon  · Llanfihangel Tal-y-llyn  · Llanfihangel-yng-Ngwynfa  · Llanfrynach  · Llangadfan  · Llangadwaladr  · Llangamarch  · Llangasty Tal-y-llyn  · Llangatwg  · Llangedwyn  · Llan-gors  · Llangurig  · Llangynidr  · Llangynllo  · Llangynog  · Llangynyw  · Llanhamlach  · Llanigon  · Llanllugan  · Llanllwchaearn  · Llanllŷr  · Llanrhaeadr-ym-Mochnant  · Llansanffraid Cwmdeuddwr  · Llansanffraid-ym-Mechain  · Llansantffraed (Aberhonddu)  · Llansantffraed-yn-Elfael  · Llansilin  · Llanwddyn  · Llanwnnog  · Llanwrin  · Llanwrthwl  · Llanwyddelan  · Llanymynech  · Llan-y-wern  · Llawr-y-glyn  · Llechfaen  · Llowes  · Llys-wen  · Llywel  · Llwydiarth  · Manafon  · Meifod  · Merthyr Cynog  · Mochdre  · Nant-glas  · Nantmel  · Pandy  · Pencelli  · Pencraig  · Penegoes  · Pengefnffordd  · Pennant Melangell  · Pentrefelin  · Penybont  · Pen-y-bont-fawr  · Pilalau  · Pipton  · Pont-faen  · Pontneddfechan  · Pontrobert  · Pontsenni  · Pwllgloyw  · Saint Harmon  · Sarn  · Sarnau, Brycheiniog  · Sarnau, Maldwyn  · Sgethrog  · Snead  · Sycharth  · Talachddu  · Talerddig  · Tal-y-bont  · Tal-y-bont ar Wysg  · Tirabad  · Trallong  · Trecastell  · Trefeca  · Trefeglwys  · Tregynon  · Trelystan  · Tre'r-llai  · Tretŵr  · Tre-wern  · Walton  · Yr Ystog

👁 Image
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.