VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Llanfyllin

⇱ Llanfyllin - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Llanfyllin
👁 Image
Mathtref bost, tref farchnad, cymuned, tref 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,532, 1,585, 1,407 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Arwynebedd4,177.72 ha 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7664°N 3.2725°W 👁 Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000305 👁 Edit this on Wikidata
Cod postSY22 👁 Edit this on Wikidata
AS/au y DUSteve Witherden (Llafur)
👁 Map

Tref fechan a chymuned yng ngogledd Powys, Cymru, yw Llanfyllin[1] (👁 "Cymorth – Sain"
 
ynganiad
 
). Dyma'r dref fwyaf yng ngogledd Sir Drefaldwyn. Mae'n gorwedd ym masn afon Cain i'r de o fryniau'r Berwyn, ar y briffordd A490 yn ardal Maldwyn. Mae wedi'i lleoli 14 milltir (23 km) i'r de-orllewin o Groesoswallt a 25 milltir (24 km) o Drefaldwyn. Llifa dwy afon i lawr y dyffryn: afonydd Cain ac Abel, gan ymuno â'r Efyrnwy yn Llansantffraid-ym-Mechain.[2]

Mae'n blwyf eglwysig a fu'n blwyf sifil am gyfnod hefyd ac yn adnabyddus am ei ffynnon sanctaidd, a gysegrir i Sant Myllin. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y boblogaeth yn 1,532, gyda dim ond 41.4% wedi'u geni yng Nghymru.

Bu'n dref farchnad ers canrifoedd, mae'n debyg oherwydd ei lleoliad strategol - rhwng yr Amwythig a'r Bala. Gerllaw, tua milltir a hanner o Lanfyllin saif Castell Bodyddon, un o gestyll tywysogion Powys, castell mwnt a beili pur sylweddol a elwir hefyd yn 'Domen yr Allt'. Ond ceir olion hŷn na hyn o'r Oes Efydd a ffordd Rufeinig sy'n nadreddu yr holl fordd i Glawdd Offa.[3] Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Tomen y Cefnlloer (neu 'Domen Foel Fochras') c.27-28m mewn diametr a 4.2m o uchder ac mae olion y domen i'w gweld heddiw cyfeiriad grid SJ118225.[4]

👁 Image
Canol tref Llanfyllin
👁 Image
Marchnad yn Llanfyllin tua 1885
👁 Image
Plac ar adleilad gyferbyn a phorth yr eglwys

Mae yma ffynnon, "Ffynnon Coed y Llanin", a gysegrwyd i Sant Myllin (Gwyddel o'r enw 'Molling', mae'n debyg), ac eglwys a godwyd yn wreiddiol yn y 7g. Arferid bedyddio pobl yn y ffynnon. Mae'r eglwys bresennol, fodd bynnag, yn eglwys frics a godwyd yn 1706 ac sy'n ddwywaith maint yr hen eglwys. Rheithor yma oedd yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604). Codwyd un o gapeli cyntaf yr Annibynwyr, Capel Pen-dref, yma yn Llanfyllin yn 1701, ond fe'i llosgwyd gan y Jacobitiaid yn 1715 a chodwyd yr adeilad presennol ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Dwy dref drwy Gymru gyfan a dderbyniodd siarter gan y tywysogion Cymreig: Y Trallwng a Llanfyllin, a dderbyniodd ei statws yn 1293[5] (1294 yn ôl Gwyddoniadur Cymru) gan Llywelyn ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Mechain Uwch y Coed a Mochnant Uwch Rhaeadr,[6] yn nheyrnasiad Edward I. Cadarnhawyd y siartr gan Edward de Charlton, dan Harry V, a ddiffiniodd Llanfyllin yn dref farchnad. Yn 1644, treuliodd Charles I y diwrnod yma, ar ei ffordd i'r Brithdir ac yna ymlaen i Gastell y Waun.[2]

Ceir sawl tŷ o ddiddoredeb hanesyddol yn yr ardal. Yn Llanfyllin ei hun ceir 'Manor House', gyda'i bump bae ffenestr, a godwyd yn 1737. I'r gogledd-ddwyrain o'r dref saif Neuadd Bodfach, hen gartref Teulu Kyffin. Codwyd y neuadd yn wreiddiol wedi i Einion Efell etifeddu'r ystâd yn 1160 oddi wrth ei dad Madog ap Maredydd, Tywysog Powys. Codwyd y tŷ gwreiddiol wedi i'r hen fwnt a beili ('Tomen yr Allt') gael ei ddymchwel yn 1256.

Ceir stori garu anghyffredin yn yr ardal, yn dilyn Rhyfeloedd Napoleon (rhwng 1804 a 1815) pan ddaeth carcharor rhyfel Ffrengig, Pierre Augeraud, i Lanfyllin a syrthio dros ei ben a'i glustiau â merch y rheithor lleol, Mary Williams. Mewn ystafell gyferbyn a'r eglwys frics (uwch ben y fferyllfa heddiw), ceir ystafell gyda 13 o luniau rhamantaidd a beintiwyd tua 1812 gan Pierre ac sy'n gorchuddio'r waliau'n gyfangwbwl. Roedd wedi'i ddal yn 1812 yn Badajoz, Sbaen yn un o 148 o swyddogion a ddygwyd i Lanfyllin, fel carcharorion rhyfel; roedd yn 25 mlwydd oed, yn dal gyda gwallt brown a llygaid glas.[7] Pan glywodd tad Mary am y garwriaeth sicrahodd alltudiad Pierre, ac ni chlywyd rhagor amdano. Bu farw'r rheithor, ond yn hydref 1814 daeth cnoc ar ddrws y tŷ, a dyna lle safai Pierre - wedi dychwelyd fel Capten, ar ôl iddo dderbyn y Légion d'Honneur gan Napoleon ei hun. Gyda sêl bendith ei mam, aeth y ddau i Ffrainc i fyw. Yn 1908 daeth Ffrancwr i Lanfyllin ar ymweliad - William Augeraud, gor-ŵyr Pierre.

Pobl o Lanfyllin

[golygu | golygu cod]
  • Edward Davies (Iolo Trefaldwyn) (1819-1887). Bardd ac eisteddfodwr.
  • O. V. S. Bulleid (1882– 251970). Treuliodd y peiriannydd rheilffordd ran o'i blentyndod yn y dref.
  • Ann Griffiths, Dolwar Fach; yma yn Llanfyllin y cafodd Ann ei throedigaeth grefyddol.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfyllin (pob oed) (1,532) 100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfyllin) (505) 34.1%
:Y ganran drwy Gymru 19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfyllin) (635) 41.4%
:Y ganran drwy Gymru 73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfyllin) (244) 36.1%
:Y ganran drwy Gymru 5%

Eglwys Sant Myllin

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. 2.0 2.1 "Llanfyllin". The National Gazetteer. 1868. Cyrchwyd 2012-02-11.
  3. Roman Britain. "Mediomanum?" at Roman Britain[dolen farw] . 2010.
  4. Gwefan Coflein[dolen farw]; adalwyd 16 Ionawr 2015
  5. http://www.mathrafal.org/parishes/myllin.htm Archifwyd 2015-03-21 yn y Peiriant Wayback mathrafal.org; gwefan yr Eglwys leol
  6. Cofnodion Archifdy Cyngor Sir Powys; Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Ionawr 2015
  7. www.secretdiner.co.uk; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback Ffeil Word; adalwyd 16 Ionawr 2015
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
gw  sg  go
Trefi a phentrefi Powys

Trefi
Aberhonddu  · Crucywel  · Y Drenewydd  · Y Gelli Gandryll  · Llanandras  · Llandrindod  · Llanfair-ym-Muallt  ·  · Llanidloes  · Llanwrtyd  · Machynlleth  · Rhaeadr Gwy  · Talgarth  · Y Trallwng  · Tref-y-clawdd  · Trefaldwyn  · Ystradgynlais
Pentrefi
Abaty Cwm-hir  · Aberbrân  · Abercegir  · Abercraf  · Aberedw  · Abergwesyn  · Abergwydol  · Aberhafesb  · Aberhosan  · Aberllynfi  · Aber-miwl  · Aberriw  · Abertridwr  · Aberysgir  · Adfa  · Arddlin  · Bachelldref  · Y Batel  · Betws Cedewain  · Beulah  · Bochrwyd  · Bontdolgadfan  · Y Bontnewydd-ar-Wy  · Bronllys  · Bugeildy  · Bwlch  · Caersŵs  · Capel Isaf  · Capel Uchaf  · Capel-y-ffin  · Carno  · Casgob  · Castell Caereinion  · Castell-paen  · Cathedin  · Cegidfa  · Cemaes  · Ceri  · Cilmeri  · Y Clas-ar-Wy  · Clatter  · Cleirwy  · Cnwclas  · Coedybrenin  · Coelbren  · Comins-coch  · Crai  · Craig-y-nos  · Crugion  · Cwmdu  · Cwm-twrch  · Darowen  · Defynnog  · Derwen-las  · Dolanog  · Dolfor  · Dylife  · Einsiob  · Erwd  · Esgairgeiliog  · Felindre, Maldwyn  · Felin-fach  · Y Foel  · Ffordun  · Gaer  · Garth  · Glan-miwl  · Glantwymyn  · Glasgwm  · Y Groes  · Gwenddwr  · Heol Senni  · Isatyn  · Kinnerton  · Libanus  · Llan  · Llanafan Fawr  · Llananno  · Llanarmon Mynydd Mawr  · Llanbadarn Fynydd  · Llanbadarn Garreg  · Llanbister  · Llanbryn-mair  · Llandinam  · Llandrinio  · Llandyfaelog Tre'r-graig  · Llandysilio  · Llandysul  · Llan-ddew  · Llanddewi yn Hwytyn  · Llanddewi Ystradenni  · Llanelwedd  · Llanerfyl  · Llanfair Caereinion  · Llanfair Llythynwg  · Llanfechain  · Llanfihangel Nant Brân  · Llanfihangel Nant Melan  · Llanfihangel Rhydieithon  · Llanfihangel Tal-y-llyn  · Llanfihangel-yng-Ngwynfa  · Llanfrynach  · Llangadfan  · Llangadwaladr  · Llangamarch  · Llangasty Tal-y-llyn  · Llangatwg  · Llangedwyn  · Llan-gors  · Llangurig  · Llangynidr  · Llangynllo  · Llangynog  · Llangynyw  · Llanhamlach  · Llanigon  · Llanllugan  · Llanllwchaearn  · Llanllŷr  · Llanrhaeadr-ym-Mochnant  · Llansanffraid Cwmdeuddwr  · Llansanffraid-ym-Mechain  · Llansantffraed (Aberhonddu)  · Llansantffraed-yn-Elfael  · Llansilin  · Llanwddyn  · Llanwnnog  · Llanwrin  · Llanwrthwl  · Llanwyddelan  · Llanymynech  · Llan-y-wern  · Llawr-y-glyn  · Llechfaen  · Llowes  · Llys-wen  · Llywel  · Llwydiarth  · Manafon  · Meifod  · Merthyr Cynog  · Mochdre  · Nant-glas  · Nantmel  · Pandy  · Pencelli  · Pencraig  · Penegoes  · Pengefnffordd  · Pennant Melangell  · Pentrefelin  · Penybont  · Pen-y-bont-fawr  · Pilalau  · Pipton  · Pont-faen  · Pontneddfechan  · Pontrobert  · Pontsenni  · Pwllgloyw  · Saint Harmon  · Sarn  · Sarnau, Brycheiniog  · Sarnau, Maldwyn  · Sgethrog  · Snead  · Sycharth  · Talachddu  · Talerddig  · Tal-y-bont  · Tal-y-bont ar Wysg  · Tirabad  · Trallong  · Trecastell  · Trefeca  · Trefeglwys  · Tregynon  · Trelystan  · Tre'r-llai  · Tretŵr  · Tre-wern  · Walton  · Yr Ystog