VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Pencraig

⇱ Pencraig - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Pencraig
👁 Image
Mathpentref 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth741 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPencraig 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Cyfesurynnau52.225°N 3.1°W 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUMark Tami (Llafur)
👁 Map

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Pencraig[1] (Saesneg: Old Radnor). Saif rhwng Maesyfed a Llanandras, ychydig i'r de o briffordd yr A44 ac ychydig i'r gorllewin o'r ffin â Lloegr.

Mae eglwys plwyf Pencraig yn dyddio o'r 15g ac yn cynnwys y cas organ hynaf yng ngwledydd Prydain.

Heblaw pentref Pencraig, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Evenjobb a Walton. Cafwyd hyd i balisâd mawr o goed o'r cyfnod Neolithig yn Walton yn ddiweddar. Codwyd y castell mwnt a beili yn Womaston cyn 1066, a chredir mai hwn oedd yn cynharaf yng Nghymru. Bu George Cornewall Lewis yn byw yn Harpton Court. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 741.

Ceir Allt Pencraig (Old Radnor Hill) yn y gymuned.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[3]

👁 Image
Fferm yng nghymuned Pencraig

Eglwys y pentref: Sant Ystyffan

[golygu | golygu cod]

O ran pensaernïaeth ac adeiladwaith, dyma un o eglwysi pwysicaf Cymru: mae'r hen eglwys wreiddiol yn tarddu ymhell cyn i'r Normaniaid gyrraedd. Gan nad oes eglwys arall a gysegrwyd i Sant Steffan yng Nghymru, dyfalir y gallai'r eglwys wreiddiol fod wedi ei chysegru i Ystyffan, aelod o deulu brenhinol Teyrnas Powys, gyda nifer eraill o eglwysi wedi eu cysegru iddo. Yn dilyn cwymp Tywysogion Cymru, efallai fod y Normaniaid wedi credu'n anghywir mai cyfeiriad Cymreig at Sant Steffan oedd Ystyffan ac ailgysegrwyd yr eglwys i hwnnw, gan ei fod yn sant poblogaidd yn Lloegr.

Yn y 1200au, trosglwyddwyd yr eglwys i Deulu'r Mortimer. Yn 1401 cafodd ei llosgi yn ystod Gwrthryfel Glyn Dŵr. Er gwaethaf y tân, mae'r bedyddfaen cyn-Normanaidd mawr iawn, a allai fod mor hen â'r 8fed ganrif, wedi goroesi.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pencraig (pob oed) (741) 100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pencraig) (52) 7.1%
:Y ganran drwy Gymru 19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pencraig) (197) 26.6%
:Y ganran drwy Gymru 73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Pencraig) (88) 28.4%
:Y ganran drwy Gymru 67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
gw  sg  go
Trefi a phentrefi Powys

Trefi
Aberhonddu  · Crucywel  · Y Drenewydd  · Y Gelli Gandryll  · Llanandras  · Llandrindod  · Llanfair-ym-Muallt  · Llanfyllin  · Llanidloes  · Llanwrtyd  · Machynlleth  · Rhaeadr Gwy  · Talgarth  · Y Trallwng  · Tref-y-clawdd  · Trefaldwyn  · Ystradgynlais
Pentrefi
Abaty Cwm-hir  · Aberbrân  · Abercegir  · Abercraf  · Aberedw  · Abergwesyn  · Abergwydol  · Aberhafesb  · Aberhosan  · Aberllynfi  · Aber-miwl  · Aberriw  · Abertridwr  · Aberysgir  · Adfa  · Arddlin  · Bachelldref  · Y Batel  · Betws Cedewain  · Beulah  · Bochrwyd  · Bontdolgadfan  · Y Bontnewydd-ar-Wy  · Bronllys  · Bugeildy  · Bwlch  · Caersŵs  · Capel Isaf  · Capel Uchaf  · Capel-y-ffin  · Carno  · Casgob  · Castell Caereinion  · Castell-paen  · Cathedin  · Cegidfa  · Cemaes  · Ceri  · Cilmeri  · Y Clas-ar-Wy  · Clatter  · Cleirwy  · Cnwclas  · Coedybrenin  · Coelbren  · Comins-coch  · Crai  · Craig-y-nos  · Crugion  · Cwmdu  · Cwm-twrch  · Darowen  · Defynnog  · Derwen-las  · Dolanog  · Dolfor  · Dylife  · Einsiob  · Erwd  · Esgairgeiliog  · Felindre, Maldwyn  · Felin-fach  · Y Foel  · Ffordun  · Gaer  · Garth  · Glan-miwl  · Glantwymyn  · Glasgwm  · Y Groes  · Gwenddwr  · Heol Senni  · Isatyn  · Kinnerton  · Libanus  · Llan  · Llanafan Fawr  · Llananno  · Llanarmon Mynydd Mawr  · Llanbadarn Fynydd  · Llanbadarn Garreg  · Llanbister  · Llanbryn-mair  · Llandinam  · Llandrinio  · Llandyfaelog Tre'r-graig  · Llandysilio  · Llandysul  · Llan-ddew  · Llanddewi yn Hwytyn  · Llanddewi Ystradenni  · Llanelwedd  · Llanerfyl  · Llanfair Caereinion  · Llanfair Llythynwg  · Llanfechain  · Llanfihangel Nant Brân  · Llanfihangel Nant Melan  · Llanfihangel Rhydieithon  · Llanfihangel Tal-y-llyn  · Llanfihangel-yng-Ngwynfa  · Llanfrynach  · Llangadfan  · Llangadwaladr  · Llangamarch  · Llangasty Tal-y-llyn  · Llangatwg  · Llangedwyn  · Llan-gors  · Llangurig  · Llangynidr  · Llangynllo  · Llangynog  · Llangynyw  · Llanhamlach  · Llanigon  · Llanllugan  · Llanllwchaearn  · Llanllŷr  · Llanrhaeadr-ym-Mochnant  · Llansanffraid Cwmdeuddwr  · Llansanffraid-ym-Mechain  · Llansantffraed (Aberhonddu)  · Llansantffraed-yn-Elfael  · Llansilin  · Llanwddyn  · Llanwnnog  · Llanwrin  · Llanwrthwl  · Llanwyddelan  · Llanymynech  · Llan-y-wern  · Llawr-y-glyn  · Llechfaen  · Llowes  · Llys-wen  · Llywel  · Llwydiarth  · Manafon  · Meifod  · Merthyr Cynog  · Mochdre  · Nant-glas  · Nantmel  · Pandy  · Pencelli  ·  · Penegoes  · Pengefnffordd  · Pennant Melangell  · Pentrefelin  · Penybont  · Pen-y-bont-fawr  · Pilalau  · Pipton  · Pont-faen  · Pontneddfechan  · Pontrobert  · Pontsenni  · Pwllgloyw  · Saint Harmon  · Sarn  · Sarnau, Brycheiniog  · Sarnau, Maldwyn  · Sgethrog  · Snead  · Sycharth  · Talachddu  · Talerddig  · Tal-y-bont  · Tal-y-bont ar Wysg  · Tirabad  · Trallong  · Trecastell  · Trefeca  · Trefeglwys  · Tregynon  · Trelystan  · Tre'r-llai  · Tretŵr  · Tre-wern  · Walton  · Yr Ystog