VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Silicon

โ‡ฑ Silicon - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Silicon
๐Ÿ‘ Silicon
Silicon mewn cynhwysydd
๐Ÿ‘ Image
Symbol Si
Rhif 14
Dwysedd 2.33 g/cmยณ

Elfen gemegol anfetelig pedwarfalent yw silicon gyda'r symbol Si a'r rhif atomig 14 yn y tabl cyfnodol. Antoine Lavoisier a ddarganfu silicon yn gyntaf, a hynny ym 1787. Elfen wythfed mwyaf cyffredin yn y bydysawd, ac ail fwyaf cyffredin yng nghrwst y ddaear (ar รดl ocsigen) ydyw. Mae'n perthyn i'r grลตp hwnnw a elwir yn fetelffurfiau.

Mae llawer o ddefnyddiau diwydiannol i silicon, yn enwedig i greu dyfeisiau electronig. Enwyd ardal enwog o ogledd Califfornia ar ei รดl, sef Dyffryn Silicon, o achos y diwydiant yno.

Chwiliwch am silicon
yn Wiciadur.


๐Ÿ‘ Image
Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.